Text Box: Ken Skates AC
 Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

27 Ionawr 2016

 

Annwyl Ddirprwy Weinidog

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, 2016-17

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr 2016 i ateb cwestiynau am gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, yn benodol ynglŷn â’r Gymraeg.

Hoffai’r Pwyllgor dynnu eich sylw at y materion a nodir isod, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb, lle y bo’n briodol, maes o law.

1. Gwariant a Blaenoriaethu

Mae’r gyllideb refeniw o fewn eich portffolio yn cael ei lleihau gan gyfran uwch nag ar gyfer y portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y mae’n dod oddi mewn iddo (5.8% mewn termau arian parod o gymharu â 4.1). Yn ystod ein trafodaethau, dywedasoch wrthym fod yna nifer o elfennau o fewn eich portffolio sy’n gallu cynhyrchu incwm ychwanegol, gan gynnwys Cadw, ac y byddai hyn yn golygu y byddai’r gostyngiad yn y gyllideb net gyffredinol yn debyg yn fras i un yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

O fewn eich portffolio, mae nifer o feysydd, gan gynnwys y celfyddydau, sy’n derbyn cyllid gan lywodraeth leol ac, fel y gwyddom, mae’r cynghorau eu hunain yn wynebu gostyngiad cyfartalog o 1.4% mewn cyllid yn y gyllideb ddrafft. Buom yn trafod y trefniadau sydd ar waith rhyngoch chi a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i leihau effaith toriadau llywodraeth leol ar feysydd o fewn eich portffolio, yn enwedig gwariant ar y celfyddydau. Fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod wedi gweithio gyda’r Gweinidog ar nifer o brosiectau, gan gynnwys y pecyn cymorth trosglwyddo asedau, a’ch bod yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion hamdden i asesu effaith y gostyngiadau yn y gyllideb ar wasanaethau diwylliant a hamdden.

Nodwn y defnydd o’r rhaglen "Fusion" fel menter i fynd i’r afael â thlodi trwy gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad diwylliannol. Rydych wedi cytuno i ddarparu diweddariad ar y rhaglen hon, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn hyn.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn croesawu eich cyhoeddiad eich bod wedi penodi’r Farwnes Randerson i arwain adolygiad o wasanaethau treftadaeth yng Nghymru. Byddwn yn dilyn gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen gyda diddordeb, a byddem yn falch o dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf oddi wrthych o dro i dro.

Sector y celfyddydau

Mae’r maes rhaglen gwariant hwn yn wynebu gostyngiad o 4.7% mewn termau arian parod, ac oddi mewn iddo mae cyllid refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cael ei ostwng gan 4.7% mewn termau arian parod.

Roedd yn ddiddorol clywed bod yr incwm a gynhyrchwyd gan Sefydliadau Cyllid Refeniw wedi cynyddu gan fwy na 15% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod hyn yn gwneud iawn, i raddau, am y gostyngiadau mewn cyllid canolog.

Gan na fydd y gyllideb yn cael ei chytuno’n derfynol tan fis Mawrth, rydym yn pryderu bod gan Sefydliadau Cyllid Refeniw yn y sector tipyn o amser i aros eto nes bod eu dyraniadau cyllid yn cael eu cadarnhau gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae i hyn oblygiadau amlwg o ran eu gallu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym yn croesawu eich cytundeb i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu dyraniadau dros dro i’r Sefydliadau Cyllid Refeniw cyn i’r gyllideb gael ei chytuno, er mwyn galluogi dechrau ar y cynllunio hwn yn gynharach.

Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd yr adolygiad o Arts and Business Cymru, a gynhaliwyd gan CCC. Rydym yn nodi bod CCC wedi adrodd ar ei ganfyddiadau yn haf 2015, ond nad yw cynnwys yr adroddiad wedi cael ei wneud yn gyhoeddus am resymau sensitifrwydd masnachol. Gwnaethoch chi gadarnhau, yn dilyn yr adolygiad hwnnw, bod disgwyl i CCC gynhyrchu prosbectws o wasanaethau datblygu y mae’n dymuno eu gweld yn cael eu darparu, ac yr anogwyd Arts and Business Cymru i gynnig am y gwaith hwn. Rydym yn nodi felly, ar y sail hon, nad oes dyraniad ar gyfer Arts and Business Cymru yn y gyllideb ddrafft.

Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Yn y gyllideb ddrafft, mae’r dyraniadau refeniw ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd wedi cael eu lleihau gan 4.9% mewn termau arian parod, o gymharu â’r llinell sylfaen 2015-16 ddiwygiedig.

Amgueddfeydd

Nodwn fod y Panel Arbenigol a benodwyd i adolygu gwasanaethau amgueddfeydd lleol wedi argymell sefydlu cronfa drawsnewid i hwyluso’r newidiadau angenrheidiol yn y sector amgueddfeydd yng Nghymru, yn ogystal â chreu tri chorff rhanbarthol i ddarparu cyfeiriad gweithredol, rheolaeth a chefnogaeth i amgueddfeydd lleol. 

i.             Pryd ydych chi’n bwriadu cyhoeddi eich ymateb i’r adolygiad arbenigol o wasanaethau amgueddfeydd lleol?

ii.           A allech chi gadarnhau a fwriedir i’r dyraniadau ar gyfer gwasanaethau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd gael eu defnyddio i fwrw ymlaen â’r argymhellion o’r adolygiad arbenigol, yn enwedig o ran cronfa drawsnewid, a chreu tri chorff rhanbarthol i gefnogi amgueddfeydd lleol?

Llyfrgelloedd

Yn y gyllideb ddrafft, mae’r gyllideb gyfalaf ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd wedi cael ei lleihau gan 1.7% mewn termau arian parod. Mae’r maes hwn wedi cefnogi’r Rhaglen Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol yn y gorffennol sydd, fel y dywedwyd gennych, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Nodwn eich tystiolaeth eich bod yn dymuno gweld y rhaglen yn parhau a’ch bod wedi darparu ar gyfer hyn yn y gyllideb ddrafft, o fewn cyllideb cyfalaf Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Yr amgylchedd hanesyddol a naturiol

O gymharu â llinell sylfaen 2015-16, bydd arian cyfalaf a refeniw cyfunol ar gyfer y Maes Rhaglen Wariant hwn yn gostwng gan 7.4% mewn termau arian parod.

Nid yw’r gyllideb gyfalaf ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a naturiol yn 2016-17 wedi newid, sy’n golygu gostyngiad mewn termau real o 1.7%. Nid oes unrhyw arwydd yn eich papur am sut yr ydych yn bwriadu defnyddio’r gyllideb hon. 

i.             A allech chi nodi sut yr ydych yn bwriadu y dylid defnyddio’r gyllideb gyfalaf ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a naturiol?

ii.           O ystyried eich sylwadau blaenorol nad oes gan lawer o berchnogion adeiladau rhestredig yr adnoddau angenrheidiol i gynnal yr adeiladau hyn, sut y bydd y dyraniadau o fewn eich portffolio yn mynd i’r afael â hyn?

 

Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r dyraniadau refeniw ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol (hy cyllid ar gyfer Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru) wedi cael eu lleihau o linell sylfaen 2015-16 ddiwygiedig o £14.7 miliwn i £13.2 miliwn, gostyngiad o 9.9% mewn termau arian parod.

Yn eich tystiolaeth, rydych yn datgan y bydd y gostyngiad yng nghyllideb refeniw Cadw yn cael ei dalu i raddau helaeth gan gynnydd a ragwelir yn ei incwm o tua £800,000. Gan ystyried cwblhau’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, ynghyd â gwaith arall, y targed incwm i Cadw am 2016-17 yw £6.2 miliwn yr ydych yn dweud y byddai, o’i gyflawni, yn cadw gostyngiadau cyllideb refeniw Cadw ar 2.1% mewn termau arian parod. Nodwn eich bod yn hyderus ynghylch bodloni’r targed incwm, ac y byddai angen gwneud addasiadau pe na fyddai hyn yn digwydd.

Mewn perthynas â’r gostyngiad o 10.6% (mewn termau arian parod) yn y gyllideb refeniw ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, rydym yn nodi eich tystiolaeth y bydd arbedion o tua £100,000 mewn costau llety yn gallu cael eu gwneud yn dilyn cyd-leoli’r Comisiwn yn adeilad y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn fwy cyffredinol, dywedasoch wrthym am y gwaith a wneir gan sefydliadau o fewn eich portffolio, gan gynnwys Cadw a’r Llyfrgell Genedlaethol, mewn perthynas â digwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd i ddenu mwy o ymwelwyr.

iii.          A yw unrhyw asesiad wedi’i wneud o sut y gall yr incwm ychwanegol a gynhyrchir o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru gael ei ddefnyddio i liniaru’r gostyngiadau cyllido yn eich portffolio?

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Yn eich tystiolaeth, dywedasoch fod cyllideb Cadw wedi cael ei gwarchod i raddau er mwyn adlewyrchu’r costau ychwanegol sy’n ymwneud â chyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), ac y bydd y cydbwysedd o ran cyllid rhwng Cadw a’r Comisiwn Brenhinol yn cael ei adolygu "yn seiliedig ar union gostau cyflwyno’r Bil".

Yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod Un ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), roedd pryder cyffredinol ymhlith ein tystion y byddai’r heriau ariannol presennol sy’n wynebu awdurdodau lleol, a’r sector treftadaeth yn fwy cyffredinol, yn rhwystr i’r gallu i weithredu darpariaethau’r Bil yn effeithiol. Yn eich tystiolaeth, cadarnhawyd gennych y byddai costau darparu’r Bil yn "gymedrol" ac y byddai’r rhan fwyaf yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy ailstrwythuro rhai o’r rhaglenni cyllido yng nghyllideb Cadw.

Y cyfryngau a chyhoeddi

Rydym yn croesawu eich penderfyniad i beidio â lleihau’r arian i Gyngor Llyfrau Cymru, fel y cynigiwyd yn wreiddiol yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth. Dywedasoch wrthym y bydd y cyllid ar gyfer y Cyngor yn dod o’r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ehangach. A allwch chi gadarnhau:

 

i.             pa ran o’r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth fydd yn cael ei leihau er mwyn rhoi arian i Gyngor Llyfrau Cymru?

ii.           A yw eich penderfyniad ynghylch cyllid ar gyfer y Cyngor yn awgrym o’ch bwriadau ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol?

 

Ar wahân, rydym yn nodi y dyraniad, yn y flwyddyn ariannol gyfredol, o £184,000 ychwanegol o gyllid cyfalaf i Gyngor Llyfrau Cymru i uwchraddio ei system TG a galluogi gwaith hanfodol i gael ei wneud yn y ganolfan ddosbarthu yn Aberystwyth.

 

 

Ysgolion ac ymarfer corff   

Gwariant ataliol

Yn eich papur, rydych yn dweud mai gwario i gynyddu ffitrwydd corfforol yw "yr enghraifft fwyaf amlwg o wariant ataliol yn fy mhortffolio". Rydych hefyd yn nodi bod "sylfaen dystiolaeth glir" sy’n profi bod cysylltiad rhwng ffitrwydd corfforol a disgwyliad oes iach, a bod yna "nifer fawr o weithgareddau a gynhelir (...) lle rwy’n gweithio’n agos gyda’r Gweinidog iechyd". Ymhellach, mae’r Asesiad Effaith Integredig Strategol yn trafod pwysigrwydd ail-gydbwyso’r system iechyd yng Nghymru tuag at ataliaeth. Yng ngoleuni’r datganiadau hyn:

i.             pam rydych wedi penderfynu lleihau dyraniadau refeniw ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol gan 5.3% (termau arian parod), tra bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu?

ii.           pa asesiad ydych wedi’i wneud o effaith y gostyngiadau cyllido hyn?

iii.          pa asesiad sydd wedi’i wneud o effeithiolrwydd y cynlluniau/gweithgareddau amrywiol sydd ar waith o ganlyniad i gyd-weithio rhyngoch chi a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?

Cyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru

Mae mwyafrif helaeth o ddyraniad y gyllideb ddrafft ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn mynd i Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, fel y gwnaethoch ei gydnabod, mae’r cyllid hwn gan y llywodraeth yn rhan gymharol fach o’r gwariant cyffredinol ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Yn ystod ein cyfarfod, dywedasoch wrthym fod "tua £153 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario gan awdurdodau lleol ar wasanaethau chwaraeon a hamdden." Fe wnaethoch chi dynnu sylw hefyd at y "cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad gan rai o’r cyrff llywodraethu cenedlaethol eu hunain mewn gweithgareddau, yn enwedig mewn ysgolion: er enghraifft, rhaglen hwb ysgolion-clybiau Undeb Rygbi Cymru".

Nodwn eich tystiolaeth ei bod yn anodd darparu’r union ffigur ar gyfer cyfanswm y buddsoddiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, ond rydym yn credu y byddai casglu data am y cyfranwyr mwyaf yn arwain at ddealltwriaeth lawnach o gyfanswm y gwariant yn y maes hwn.

iv.           A oes unrhyw drefniadau yn eu lle i gasglu gwybodaeth am y buddsoddiad ariannol a ddarperir gan y cyfranwyr mwyaf i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru? Os na, a wnewch chi ystyried rhoi’r rhain ar waith?

v.            Yn fwy cyffredinol, pa seilwaith sydd yn ei le yng Nghymru i ddarparu cefnogaeth a chymorth i glybiau a chymdeithasau chwaraeon llai o faint i gynorthwyo gyda’u datblygiad? A yw Llywodraeth Cymru yn goruchwylio hyn?

Cynllun lleol cyfalaf cyfleusterau chwaraeon

Nodwn fod hwn yn gynllun peilot gwerth £5 miliwn yn y gyllideb ddrafft 2015-16, a’i bod yn fwriad gennych gynnal gwerthusiad ohono. Dywedasoch hefyd mai eich nod yw ei gwneud yn gynllun benthyciadau ailgylchadwy.

 

A allwch chi gadarnhau:

vi.          y byddwch yn cyhoeddi canlyniadau’r gwerthusiad o’r cynllun benthyciadau cyfalaf?

Yn gywir

Christine Chapman AC
Cadeirydd

 

cc: Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid